Skip to content

Bwlio

Curo Bwlio: paid dioddef yn dawel, siarada â rhywun amdano.

Gall bwlio ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran. Gall cael dy fwlio yn yr ysgol, gartref neu ar-lein gynnwys rhywun yn dy wthio di, yn siarad amdanat ti neu’n galw enwau arnat ti. Gall bwlio hefyd fod ar ffurf cam-drin, gan gynnwys esgeuluso a cham-drin emosiynol, corfforol a rhywiol.

Galli di siarad amdano - mae pobl ar gael a fydd yn gwrando ac yn helpu.

Pan Mae’n Rhaid i Fwlio Stopio

Gall bwlio arwain at ganlyniadau difrifol. Mae elusennau bwlio’n adrodd eu bod yn cael galwadau a negeseuon e-bost oddi wrth disgyblion sy’n dweud eu bod yn ystyried cymryd eu bywydau eu hunain, neu eu bod wedi ystyried hynny yn y gorffennol. Mae rhai wedi bod yn niweidio’u hunain oherwydd eu gofid, yn dioddef o anhwylderau bwyta, neu’n derbyn cymorth seiciatrig neu seicolegol.

Beth Galli Di Ei Wneud i Stopio Cael Dy Fwlio

Yn gyntaf, cofio nad dy fai di yw e ac nad yw’n e’n ddim i fod â chywilydd ohono. Bydd bwlis yn pigo ar unrhyw beth i wneud i bobl deimlo’n wael.

Mae rhai pethau y galli di wneud i’w stopio:

  • Dweda wrth rywun – ffrind, athro, rhiant neu berthynas arall, a meddyg os wyt ti’n teimlo’n isel. Siarada amdano, paid dioddef yn dawel
  • Paid bod ar dy ben dy hun – cerdda adref mewn grwpiau, aros o fewn ardaloedd prysur yn yr ysgol, cer ar fws gwahanol
  • Ymddangos yn hyderus – mae bwlis yn aml yn pigo ar bobl sy'n ymddangos yn ddistaw ac yn fewnblyg, felly os wyt ti’n edrych yn fwy hyderus maen nhw'n debygol o roi llonydd i ti
  • Tystiolaeth – cadwa ddyddiadur o’r pethau sy’n digwydd ac unrhyw dystion, cadwa negeseuon e-bost neu negeseuon testun i ddangos i dy rieni neu’r heddlu
  • Paid bwrw’n ôl – byddi di’n gwneud pethau’n waeth neu gallet ti gael dy hun i drwbl, a phaid ateb negeseuon e-bost neu negeseuon testun sarhaus

Os Wyt Ti’n Adnabod Rhywun Sy’n Dioddef Bwlio

Efallai dy fod ti’n teimlo nad oes gen ti’r pŵer i’w stopio, ond mae rhai pethau y gallet ti wneud:

  • Dweda wrthyn nhw nad eu bai nhw yw e – bydd rhai pobl ddim eisiau cyfaddef eu bod nhw’n cael eu bwlio
  • Bydd yno iddyn nhw – paid mynd ynghlwm yn y peth ond paid â’i anwybyddu, dweda wrthyn nhw dy fod ti ar gael iddyn nhw siarad â ti
  • Dere ag e allan i’r amlwg – ceisia’u cael i siarad â rhywun arall, neu os yw hynny’n briodol, siarada di â rhywun am y peth

Os Wyt Ti’n Fwli

Rwyt ti’n fwli os wyt ti’n galw enwau ar bobl, yn gwneud storïau amdanyn nhw neu’n lledaenu sïon, yn anfon negeseuon testun cas, yn mynd â’u harian neu eu heiddo, yn cuddio’u bag, yn eu gadael allan o bethau’n fwriadol, yn dweud pethau cas am y ffordd y maen nhw’n edrych neu eu pwysau, a llawer iawn o bethau eraill sydd wedi’u cynllunio i’w ypsetio nhw.

Nid hwyl ddiniwed yw bwlio, gall gael effaith difrifol ar y dioddefydd. Mae tua 16 o ddisgyblion yn y DU yn lladd eu hunain bob blwyddyn oherwydd bwlio. Mae pobl weithiau’n dweud nad oedden nhw’n gwybod ei fod yn digwydd, ond mae un unigolyn sy’n gwybod ac a allai fod wedi gwneud i’r peth stopio - y bwli.

Y Risgiau i Ti

  • Gallet ti fod yr un sy’n gyfrifol am salwch meddwl rhywun arall, mae rhai dioddefwyr hyd yn oed yn lladd eu hunain – dychmyga bod â hynny ar dy gydwybod
  • Gallet ti gael dy wahardd neu dy ddiarddel o’r ysgol
  • Os wyt ti dros 10 oed, gallet ti gael dy gyhuddo o ymosod neu aflonyddu
  • Os wyt ti’n bwlio rhywun y tu allan i’r ysgol gallet ti gael Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Sut i Stopio

Y cam cyntaf yw cyfaddef i ti dy hun dy fod ti’n bwlian pobl eraill.

Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd stopio oherwydd pwysau gan bobl eraill dyma rai pethau i ti feddwl amdanynt:

  • Sut wyt ti’n gwneud i’r unigolyn hwnnw deimlo – sut fyddet ti’n teimlo os mai ti fyddai’n dioddef neu os byddet ti’n gweld hynny’n digwydd i ffrind?
  • Pam wyt ti’n ymddwyn fel hyn – efallai bod rhywun yn dy fwlio ti hefyd, neu efallai bod problemau gartref
  • Yr effaith y byddai hyn yn cael ar dy fywyd di – petai rhywun yn darganfod beth rwyt ti’n ei wneud

Mae angen i ti ddweud wrth rywun beth sy’n digwydd. Bydd hyn yn gwneud pethau’n well i ti yn ogystal ag i’r unigolyn rwyt ti’n pigo arno. Os na alli di siarad â rhywun o dy amgylch di, siarada â Childline Cymru drwy ffonio 0800 1111 yn rhad ac am ddim. 

Rhywun y Galli Di Siarad â Nhw

Galli di siarad yn gyfrinachol gyda chwnselydd Childline Cymru drwy ffonio 0800 11 11. Bydd yr alwad am ddim

A ydych chi wedi dioddef bwlio ar-lein?