Gweithio Gyda Ni

Mae dewis gyrfa’n gallu bod yn anodd iawn.

Mae llawer iawn o swyddi y gallet ti ymgeisio amdanynt – efallai dy fod ti eisiau bod yn Swyddog yr Heddlu neu’n Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO), neu’n Gwnstabl Gwirfoddol. Ond does dim rhaid i ti fod yn Swyddog yr Heddlu i weithio i’r heddlu – mae llawer o swyddi gwahanol ar gyfer staff yr heddlu hefyd.

Mae hyd yn oed cyfle i ti allu rhoi cynnig ar yrfa arbennig, i gael blas arni. Os wyt ti’n 16 oed gallet ti fod yn gadét yr heddlu. Mae Heddlu Dyfed-Powys newydd recriwtio’r grŵp cyntaf o gadetiaid.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyfrifol am blismona dau ran o dri o Gymru – yn ddaearyddol ni yw’r heddlu mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Darllena mwy ynghylch pwy yw Heddlu Dyfed-Powys.

Profiad Gwaith

Nid oes gan Heddlu Dyfed-Powys raglen profiad gwaith, ond y mae’n cynnal rhai ‘dosbarthiadau meistr’ un diwrnod ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr heddlu, a hynny mewn cydweithrediad â Gyrfa Cymru.

Os oes gyda ti ddiddordeb mewn dod i ddosbarth meistr mae modd cysylltu â Gyrfa Cymru drwy dy athro neu athrawes gyrfaoedd.