PC a PCSO
Mwy o swyddi nag y byddet ti’n meddwl!
Mae plismona wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd wrth i dechnoleg ddatblygu. Mae bron pob elfen o waith yr heddlu’n cynnwys cyfrifiaduron mewn rhyw ffordd - er enghraifft, defnyddio camerâu cyflymder neu ddadansoddi olion bysedd.
Gall swyddi Swyddogion yr Heddlu amrywio’n fawr – dyma rai enghreifftiau o feysydd arbenigol:
- Digwyddiadau Mawr
- Yr Adran Dwyll
- Yr Adran Gyffuriau
- Yr Adran Arbennig
- Trwyddedu
- Y Ddalfa
- Ymchwiliadau Cyfrifiadurol
- Beiciau Modur
- Arfau Saethu
- Troseddau Arfog
- Ymchwiliadau Troseddol
- Plismona’r Ffordd
- Hyfforddi
- Cam-drin yn y Cartref
- Uned yr Hofrennydd
- Cudd-wylio
- Hyfforddi Cŵn
- Cudd-wybodaeth Bêl-droed
Allet ti?
Mae gwefan sy’n esbonio popeth ynghylch ymuno â’r Heddlu.
http://www.policecouldyou.co.uk/
Swyddogion yr Heddlu
- Rhaid bod yn o leiaf 18 oed
- Dim cyfyngiadau o ran taldra
- Dim gofynion addysgol, ond mae’n rhaid i ti basio profion ysgrifenedig
- Rhaid bod yn ffit cyn i ti drio ymuno! Profion ffitrwydd – rhaid bod yn weddol ffit a gallu rhedeg pellter byr yn eithaf cyflym. Bydd archwiliad meddygol yn ddiweddarach
- Manylion ymuno llawn
Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO)
- Tebyg i swyddog yr heddlu
- Cofia y byddi di’n ymdrin â’r cyhoedd felly efallai y bydd rhai tatŵs a chelf corff yn annerbyniol. Gofyn i ni
- Bydd angen i ti: fod yn gallu ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth, dangos aeddfedrwydd, cyfathrebu’n dda, bod â stamina, dangos sensitifrwydd â bod yn dew dy groen!
- Canllaw ar gyfer dod yn Swyddog Cefnogi Cymunedol
Cymwysterau
Does dim angen cymwysterau penodol arnat ti i fod yn Swyddog yr Heddlu neu’n Swyddog Cefnogi Cymunedol, serch hynny mae sgiliau cyfathrebu da yn bwysig iawn ac mae’n hanfodol i ymgeiswyr fod â sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’n rhaid i bob unigolyn sy’n dymuno ymuno â’r heddlu gyflawni profion a fydd yn mesur y sgiliau hyn.



