Skip to content

Swyddi eraill

Dydy gweithio i’r heddlu ddim bob amser yn golygu bod yn Swyddog Heddlu neu’n Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu.

Mae llawer o swyddi eraill hefyd, mwy nag rwyt ti’n meddwl mwy na thebyg:

  • Swyddog Gweinyddol
  • Ffotograffydd
  • Peilot
  • Dylunydd Graffig
  • Rhaglennydd TG
  • Technegydd Labordy
  • Swyddog Recriwtio
  • Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch
  • Nyrs Iechyd Galwedigaethol
  • Swyddog Cyfathrebu
  • Cyfrifydd
  • Peiriannydd Cerbydau
  • Swyddog Olion Bysedd
  • Clerc Cyfrifon
  • Swyddog Ymchwil
  • Ysgrifennydd/Ysgrifenyddes
  • Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Ymgynghorydd Lleihau Trosedd
  • Glanhawr
  • Clerc Pensiynau

 

Gyda’r fath amrywiaeth swyddi, does dim un llwybr addysgol penodol y gallwn ni ei argymell ar gyfer cael swydd fel aelod o staff yr heddlu. Gall dy gynghorydd gyrfaoedd dy helpu di gyda pha gymwysterau fydd eu hangen arnat ti ar gyfer swyddi arbenigol.

Hysbysebir swyddi ar wefan Heddlu Dyfed-Powys bob wythnos.