Skip to content

Arfau Saethu a Thaser

Hyfforddi ein swyddogion

Mae Adran Hyfforddi Arfau Saethu Heddlu Dyfed-Powys yn hyfforddi swyddogion i fod yn swyddogion arfau saethu awdurdodedig fel y gallwn ni ymdrin â digwyddiadau lle mae angen swyddogion arfog. 

Mae’r swyddogion hyn hefyd yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio opsiynau “llai angheuol” fel y Taser a’r lansiwr L1041A. Mae’r opsiynau hyn yn rhoi mwy o ddewis i swyddogion wrth ymdrin â phobl arfog heb orfod troi at ddefnyddio grym sydd a’r potensial o fod yn angheuol.

Mae swyddogion yn gwirfoddoli i fod yn Swyddog Arfau Saethu ac maen nhw’n mynd trwy broses ddethol llym iawn cyn eu bod nhw’n cael mynd ar gwrs arfau saethu. Fel rhan o’r hyfforddiant mae gofyn i swyddogion ddangos cymhwysedd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys diogelwch a thrin arfau, cywirdeb, tactegau a gwneud penderfyniadau pan dan bwysau. 

Mae Swyddogion Arfau Saethu hefyd yn mynd ar gyrsiau gloywi sgiliau yn rheolaidd. Pan mae ganddyn nhw ddigon o brofiad gallan nhw wneud cais am swyddi arbenigol fel Swyddog Reiffl a Swyddog Diogelu Personol, lle mae angen hyfforddiant arbenigol.

Bod yn ofalus

Mae dosbarthu arfau saethu i swyddogion yr heddlu yn cael ei reoli a’i fonitro’n ofalus. Dim ond pan mae angen i swyddogion amddiffyn eu hunain rhag rhywun arall sydd ag arf saethu neu sydd â mynediad at arf saethu y gallan nhw gael eu defnyddio.

Mae pob digwyddiad yn cael ei archwilio’n ofalus a bydd y wybodaeth yn cael ei asesu fel y gellir gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a ddylid defnyddio swyddogion heddlu arfog.

Mae’n bosibl y bydd pob digwyddiad lle defnyddir arfau saethu yn cael ei arolygu.

Trwyddedau

Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys mae:- 

  • gan 17000 o bobl drwydded gwn saethu ar gyfer 36000 o arfau.
  • gan 3500 o bobl dystysgrif Arfau Saethu Adran 1 ar gyfer 7200 o arfau.

Cerbydau Ymateb Arfog

Mae tri Cherbyd Ymateb Arfog yn gweithredu o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys, gan roi’r gallu i ni ymdrin ag arfau saethu pryd bynnag y byddan nhw’n digwydd.

Mae’r Cerbydau Ymateb Arfog hyn wedi ymateb i tua 300 o ddigwyddiadau yn y chwe mis diwethaf.