Skip to content

Arfau

Beth sydd o’i le ar gario arf?

Dydy cario cyllell neu ddryll byth yn syniad da – gallai e gael ei ddefnyddio yn dy erbyn di neu gallet ti gael dy gyhuddo o drosedd.

 

  • Dydy arf ddim yn addurn ffasiynol – gall achosi niwed difrifol a dy gael di i drwbl
  • Bydd e ddim yn ennill parch i ti – mae arfau’n creu ymdeimlad o ofn a diffyg ymddiriedaeth ac mae’n gwneud i bobl dy weld ti fel bygythiad
  • Dydy e ddim yn dy wneud ti’n fwy diogel – gall gael ei droi yn dy erbyn, ac mewn gwirionedd mae cario dryll neu gyllell yn ei wneud yn fwy tebygol y byddi di’n ddioddefydd
  • Mae’n anghyfreithlon – gallet ti gael dedfryd o garchar a chofnod troseddol a allai dy rwystro di rhag teithio i rai gwledydd, mynd i’r brifysgol neu gael swydd
  • Dydy hunanamddiffyn ddim yn esgus – mae e’n dal yn anghyfreithlon, ac mae’n beryglus gan fod pobl yn meddwl dy fod ti’n ei gario gan dy fod ti’n barod i’w ddefnyddio

Does dim problem gyda throseddau cyllyll yn ardal Dyfed-Powys - dewch i ni ei gadw fel hynny.

Eich Dewis Chi Ydyw

Rhowch gynnig ar y fideo rhyngweithiol hwn gan yr Heddlu Metropolitan i weld sut allwch chi ddewis diweddglo gwahanol.

Cyfreithiau Drylliau

Mae dedfrydau ar gyfer troseddau’n ymwneud â drylliau wedi mynd yn llawer llymach. Bydd unrhyw un a geir yn euog o feddu ar arf saethu gwaharddedig yn wynebu lleiafswm dedfryd o 5 mlynedd yn y carchar. Mae hefyd angen i ti fod o leiaf 17 oed cyn y galli di brynu reiffl awyr.

Gallai drylliau ffug hefyd dy gael di mewn i drwbl

Efallai nad wyt ti’n meddwl ei fod yn beth mawr, ond gall bod ag arf ffug yn gyhoeddus achosi canlyniadau difrifol.

Os yw’n saethu pêl-ferynnau neu ddim yn saethu o gwbl, os bydd rhywun yn meddwl dy fod ti’n cario dryll iawn ac yn dy riportio di i’r heddlu, bydd yr heddlu’n ymateb drwy anfon swyddogion arfog.

Cyfreithiau Troseddau Cyllyll

Dyma’r pethau sylfaenol:

  • mae’n anghyfreithlon prynu’r rhan fwyaf o fathau o gyllyll os wyt ti dan 18 oed
  • gall unrhyw un dros 16 oed gael eu cyhuddo a’u hanfon i’r llys os byddant yn cael eu dal gyda chyllell anghyfreithlon - hyd yn oed os mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael eu stopio gan yr heddlu
  • os wyt ti dan 16 oed ac yn cael dy ddal yn cario cyllell, gallet ti dderbyn dedfryd gymunedol neu fynd i ganolfan gadw a derbyn gorchymyn hyfforddi
  • gallet ti gael dy archwilio ar unrhyw amser os bydd swyddog heddlu neu athro’n meddwl y gallet ti fod yn cario cyllell
  • hyd yn oed os wyt ti’n cario cyllell y mae gen ti hawl cyfreithiol i’w chario (fel cyllell boced â llafn sy’n fyrrach na thair modfedd), mae’n anghyfreithlon os wyt ti’n ei defnyddio fel arf i fygwth neu niweidio unrhyw un.
  • Mae’r ddedfryd fwyaf ar gyfer unrhyw un a geir yn euog o gario cyllell anghyfreithlon nawr yn bedair blynedd. Os wyt ti’n niweidio rhywun neu’n defnyddio cyllell i gyflawni trosedd gallai’r gosb fod yn llawer gwaethDaw hyn o Directgov

Beth os yw dy ffrind yn cario arf?

Rwyt ti’n gwybod pa mor beryglus yw e, ond weithiau dydy dy ffrindiau di ddim yn gwrando. Galli di gysylltu â Crimestoppers Cymru heb orfod rhoi dy enw na dy gyfeiriad. Galli di ffonio 0800 555 111 neu anfon neges destun at 88551. Ni fydd modd gwybod o ble daeth dy neges destun. Os wyt ti eisiau ildio arf, cysyllta gyda dy Dîm Plismona Bro drwy ffonio 101 (yng Nghymru) a all roi cyngor i ti a chael gwared ag e mewn modd diogel. Paid â’i daflu mewn bin neu gallai rhywun gael niwed.