Bod yn Ddiogel Ar-lein
Gwyliwch ein ffilm wedi’i hanimeiddio ynghylch cadw’n ddiogel ar-lein - wrth chwarae gemau, sgwrsio neu ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol
Methu gwylio’r fideo? Mynnwch Adobe Flash® Player

Rhwydweithio Cymdeithasol
Mae’r mwyafrif ohonom ni’n defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol i sgwrsio gyda’n ffrindiau, rhannu lluniau a chadw mewn cysylltiad gyda beth sy’n digwydd.
Mae angen i ti wneud yn siŵr dy fod ti’n ddiogel ar-lein. Mae rhai pobl yn esgus bod yn rhywun arall ac yn trio dy dwyllo di i fod yn ffrind iddyn nhw.
Dilyn y cyngor hwn i dy helpu i fod yn ddiogel.
- Gwna broffil diogel: paid defnyddio dy enw iawn, paid rhoi manylion personol amdanat ti na dy deulu, paid rhoi lluniau neu ddarnau fideo na fyddet ti’n hapus i dy rieni weld. Gwna’n siŵr dy fod ti’n cadw dy gyfrinair yn breifat. Gwna’n siŵr nad yw dy osodiadau preifatrwydd yn gadael i’r holl fyd weld dy negeseuon a dy luniau. Os ydych chi’n defnyddio Facebook, ychwanegwch y rhaglen ClickCEOP i roi mynediad hawdd i chi i’w cyfleusterau rhoi cyngor a riportio.
- Bydda’n ffrindiau gyda’r bobl iawn: paid ychwanegu rhywun dwyt ti ddim yn adnabod at dy restr ffrindiau hyd yn oed os ydyn nhw’n dweud eu bod nhw’n dy adnabod ti, cofia bod pobl yn gallu creu proffiliau ffug. Paid ateb negeseuon cas ond cadwa nhw a dweud wrth rywun amdanyn nhw.
- Meddylia cyn postio: unwaith ei fod e wedi mynd mae’n anodd, ac weithiau’n amhosibl i’w dynnu’n ôl. Efallai y bydd pobl yn pasio negeseuon ymlaen, heb i ti allu rheoli hynny. Paid â gwneud sylwadau amhriodol ynghylch dy ysgol neu dy athrawon, a chofia pan fyddi di’n chwilio am swydd efallai bydd y cyflogwyr yn edrych ar dy broffiliau ar-lein.
Sgwrsio a Negeseua Gwib (IM)
- Cadwa dy wybodaeth bersonol yn gyfrinachol. Paid dweud dy enw iawn, dy rif ffôn na dy gyfeiriad wrth neb, defnyddia lysenw. Paid rhoi manylion unrhyw un arall chwaith.
- Gall bobl esgus eu bod nhw’n rhywun arall. Bydd yn ofalus ynghylch pwy rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw. Meddylia’n ofalus am bwy sydd ar dy restr “ffrindiau”.
- Paid bod ofn rhwystro neu anwybyddu pobl ar negeseua gwib, paid derbyn negeseuon gan bobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod, a phaid ateb negeseuon cas.
- Dweda wrth rywun fel rhiant, athro neu oedolyn cyfrifol arall os oes rhywbeth yn dy boeni di.
Chwarae Gemau Ar-lein a Sgwrsio Byw
Mae gemau ar-lein yn caniatáu i chi chwarae a siarad â phobl ar draws y byd, ac ar rai consolau fel Xbox gallwch sgwrsio â llais. Nid yw hyn yn ddim gwahanol i unrhyw fath arall o sgwrsio ar-lein, a gallwch ddefnyddio’r un cyngor i fod yn ddiogel.
- Dysgwch sut i wahardd chwaraewyr eraill a pheidiwch â bod ag ofn gadael y gêm os ydych yn teimlo’n anghyfforddus. Mae rhai gemau’n gadael i chi daflu chwaraewyr eraill allan os ydynt yn ymddwyn yn amhriodol. Riportiwch ymddygiad drwg i ddarparwr y gêm.
- Fyddech chi ddim yn dweud popeth amdanoch chi eich hun wrth rywun dieithr a fyddai’n ffonio eich ffôn symudol - peidiwch â thrin sgwrsio ar-lein yn wahanol. Os ydych yn poeni y gall pobl adnabod eich oed neu eich rhyw drwy sgwrsio ar-lein, defnyddiwch fwgwd llais i newid sain eich llais.
Bwlio ar-lein
Seiberfwlio yw pan fod rhywun yn defnyddio’r rhyngrwyd, ffonau symudol neu dechnoleg arall i fygwth, poeni neu sarhau rhywun arall. Unwaith eto, mae hyn yn erbyn y gyfraith a does gan neb yr hawl i wneud hyn i ti.
Dyma rai pethau a all rhwystro neu stopio’r math hyn o fwlio:
- Siarada â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw, fel rhiant neu athro
- Paid ateb, byddai hynny’n eu hannog
- Cadwa gopi o unrhyw beth rwyt ti’n ei dderbyn
- Cofia gadw dy holl fanylion personol yn gyfrinachol ar y rhyngrwyd – paid rhoi dy enw, dy gyfeiriad, dy oedran, dy rif ffôn na dweud i ba ysgol rwyt ti’n mynd
- Newidia dy enw neu dy fanylion adnabod
- Os yw hyn yn digwydd ar wefan, cwyna i bwy bynnag sy’n cynnal y safle
- Rho rwystr ar eu cyfeiriad e-bost neu eu henw defnyddiwr negeseua gwib
Os oes rhywbeth yn mynd o’i le
Os yw rhywun yn dweud rhywbeth ar-lein sy’n dy boeni di neu’n codi ofn arnat ti, dweda wrth oedolyn yn syth.
Os wyt ti’n credu bod rhywun wedi dweud neu wneud rhywbeth a ddylai gael ei riportio i’r heddlu, dyma rai pethau y dylet ti wneud yn siŵr dy fod ti’n dweud wrthon ni:
- Ar gyfer ystafelloedd sgwrsio - y cyfeiriad gwe llawn gan gynnwys yr ystafell neu’r sianel
- Ar gyfer negeseua gwib - sut wnest ti ddod i gysylltiad gyda’r unigolyn yn y lle cyntaf, hynny yw, drwy wefan arall fel Bebo neu safle gemau, gan gynnwys cyfeiriad y wefan
- Dy enw defnyddiwr a dy gyfeiriad e-bost di a’r unigolyn arall (os wyt ti’n gwybod)
- Paid diffodd y cyfrifiadur os yn bosibl – os oes sesiwn sgwrsio’n digwydd cadwa fe ar y sgrin fel bod modd ei weld.
Cyfarfod yn y byd go iawn
Dydy e ddim wir yn syniad da i gyfarfod â phobl dwyt ti dim ond wedi siarad â nhw ar-lein, achos dwyt ti ddim wir yn siŵr nad ydyn nhw’n esgus bod yn rhywun arall.
Os wyt ti’n penderfynu cyfarfod â rhywun, cer ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw gyda ti, a threfna eich bod chi’n cyfarfod mewn man cyhoeddus. Paid byth mynd ar dy ben dy hun.


