Cyngor ar Warchod Plant

Os oes rhywun wedi gofyn i ti warchod, rwyt ti’n gwybod ei fod yn gyfrifoldeb mawr. Wyt ti’n gwybod beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o le, neu beth yw’r gyfraith?
Darllena ein canllawiau, a chofia hefyd i edrych ar ein cyngor ynghylch bod yn ddiogel pan rwyt ti gartref ar dy ben dy hun.
Gwarchod Brodyr a Chwiorydd
- Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth, siarada gyda dy riant/rhieni
- Mae gen ti hawl i amser i ffwrdd! Ddylet ti ddim gorfod gwarchod bob nos, cytuna ar rai nosweithiau y galli di eu cael i ti dy hun. Os wyt ti’n gorfod gwarchod am lawer o nosweithiau’n olynol, gofyn a all ffrind ddod draw i helpu
- Gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod yn fras pryd bydd dy riant/rhieni’n dod nôl, a dy fod ti’n gwybod sut i gysylltu â nhw
- Gwna’n siŵr fod gen ti rywun wrth gefn - pe bai ti’n methu cael gafael ar dy rieni, oes oedolyn arall rwyt ti’n ymddiried ynddo y gallet ti ei ffonio?
- Gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod beth yw’r risgiau o amgylch y tŷ a sut i ddelio gyda nhw, gofyn i dy riant/rhieni beth y dylet ti wneud mewn argyfwng
Gwarchod ar Gyfer Rhywun Arall
- Paid gwarchod ar gyfer pobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod, hyd yn oed os ydyn nhw’n hysbysebu
- Ystyria a wyt ti’n ddigon cyfrifol ar gyfer y swydd hon, paid ymrwymo i rywbeth sy’n ormod i ti. Byddi di’n gofalu am blentyn, paid â meddwl am hwn fel esgus i wneud beth rwyt ti ei eisiau yng nghartref rhywun arall
- Mae’n syniad da i ddod i adnabod y plentyn yn gyntaf pan mae pobl eraill o amgylch
- Gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod sut i weld peryglon a risgiau o amgylch y cartref, cadwa’r drysau a’r ffenestri wedi’u cloi, paid defnyddio offer trydanol dwyt ti ddim yn gyfarwydd â nhw
- Cyn i’r rhiant/rhieni adael, gofyn am rifau cyswllt mewn argyfwng, pryd y byddan nhw’n dod nôl, sut y mae unrhyw larymau’n gweithio a beth mae gen ti hawl i’w wneud yn y cartref. Gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod sut y byddi di’n cyrraedd adref ar ôl gwarchod
- Os wyt ti wir eisiau bod yn warchodwr perffaith, gallet ti ystyried cymryd cyrsiau cymorth cyntaf gydag Ambiwlans Sant Ioan neu’r Groes Goch
Y Gyfraith
Does dim lleiafswm oedran ar gyfer bod yn warchodwr a does dim rhaid i ti gofrestru gyda neb, ond dyma’r gyfraith ynghylch cyfrifoldeb:
- Os wyt ti dan 16 oed a bod rhywbeth yn digwydd i’r plentyn, y rhieni sy’n gyfrifol
- Os wyt ti dros 16 oed galli di fod yn euog o esgeulustod os yw’r plentyn a esgeuluswyd dan 16 oed


