Skip to content

Diogelwch Personol

Bod yn Ddiogel yn y Cartref

Bod gartref ar dy ben dy hun

Bydd yn ddiogel pan fyddi di yn y tŷ ar dy ben dy hun drwy ddilyn y cyngor hwn:

  • Gwna’n siŵr dy fod ti’n cloi’r drws a chau’r ffenestri
  • Gwna’n siŵr dy fod ti’n cau’r llenni pan mae hi’n mynd yn dywyll
  • Ffonia rywun i roi gwybod iddyn nhw dy fod ti wedi cyrraedd, a gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod pwy i alw mewn argyfwng
  • Os wyt ti’n gweld arwyddion bod rhywun wedi torri i mewn pan rwyt ti’n cyrraedd gartref, paid mynd mewn. Cer at oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw a ffonia’r heddlu. Os wyt ti yn y tŷ ac yn clywed rhywun yn torri mewn, ffonia’r heddlu heb dynnu sylw’r troseddwr

Ateb y ffôn

Mae’n beth mor gyffredin efallai nad wyt ti wedi meddwl llawer amdano, ond mae rhai pethau y galli di wneud i dy ddiogelu dy hun dros y ffôn wrth beidio â datgelu gormod o wybodaeth i bobl ddieithr.

Dyma rai syniadau:

  • Os yw’r unigolyn sy’n galw’n dweud rhywbeth brawychus neu’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus – rho’r ffôn lawr a dweda wrth rywun
  • Paid gadael i’r galwr wybod dy fod ti yn y tŷ ar dy ben dy hun. Galli di wastad ddweud bod mam neu dad yn cael cawod neu’n brysur yn coginio.
  • Os ydyn nhw’n gofyn “pwy yw hwn?” paid dweud dy enw – yn lle hynny, gofyn pwy sy’n galw ac â phwy roedden nhw eisiau siarad.
  • Bydd yn ofalus i bwy rwyt ti’n rhoi dy rif ffôn, paid gadael i unrhyw un roi pwysau arnat ti i wneud – dweda wrth rywun os bydd hyn yn digwydd
  • Paid â rhoi benthyg dy ffôn symudol i rywun dwyt ti ddim yn adnabod neu’n ymddiried ynddo, neu ei adael yn rhywle lle gallai pobl eraill gael gafael arno

Pan Fydd Pobl yn Dod i’r Drws

  • Os wyt ti ar dy ben dy hun, does dim rhaid i ti ateb - os yw e’n bwysig, fe wnawn nhw ddod nôl
  • Os wyt ti’n ateb y drws pan rwyt ti ar dy ben dy hun, paid byth â gadael iddyn nhw wybod dy fod ti ar dy ben dy hun. Galli di ddweud wrthyn nhw bod mam a dad yn brysur neu’n cael cawod a gofyn iddyn nhw alw eto rhywbryd arall
  • Paid â gadael i ymwelydd roi pwysau arnat ti i wneud unrhyw beth – os ydyn nhw’n ddiffuant fyddan nhw ddim yn gwneud hyn
  • Os oes rhywun yn llwyddo siarad ei ffordd i mewn i’r tŷ, paid â bod ag ofn gadael os nad wyt ti’n teimlo’n ddiogel. Cer i dŷ diogel, fel tŷ cymydog neu ffrind i’r teulu, a dweda wrthyn nhw beth sydd wedi digwydd. Gallan nhw ddod nôl gyda ti neu ffonio’r heddlu

Bod yn ddiogel tra rwyt ti allan

Does dim angen i ti fod mor ofnus dy fod ti’n aros mewn neu’n ofni mynd allan, ond gall peth gwybodaeth dy helpu di fod yn ddiogel ac yn gall ar y stryd.

Cerdded

Os yn bosibl, trïa gerdded gyda rhywun arall neu mewn grŵp.

Os oes rhaid i ti gerdded ar dy ben dy hun, mae rhai pethau rwyt ti’n gallu gwneud i fod yn fwy diogel:

  • Aros o fewn ardaloedd sydd wedi eu goleuo’n dda a lle mae pobl eraill o amgylch, a chadw draw o ardaloedd gydag enw drwg, defnyddia brif lwybrau a mannau agored, a phaid mynd i leoedd coediog nac ar hyd y llwybr byr drwy’r parc neu lawr lôn dywyll
  • Bydd yn ymwybodol o beth sy’n mynd ymlaen o dy gwmpas di
  • Dydy e ddim yn syniad da i wrando ar gerddoriaeth drwy dy ffonau clust – mae’n tynnu dy sylw di ac mae’n dangos i bobl bod gyda ti rhywbeth gwerth ei ddwyn
  • Paid â chadw dy bethau gwerthfawr yn y golwg, rho’r ffôn a’r chwaraeydd mp3 yn dy fag
  • Cadw dy fag yn agos fel na all neb gydio ynddo fe, ac oes rhywun yn mynd ag e gad iddo fe fynd – mae dy ddiogelwch di’n fwy pwysig
  • Cadwa larwm personol yn dy law – i roi sioc i rywun sy’n ymosod ac i dynnu sylw pobl sy’n pasio. Galli di eu prynu o siopau DIY, neu mae rhai colegau yn eu rhoi am ddim
  • Os oes rhywun yn dy ddilyn di, cer i rywle lle mae pobl eraill, fel siop, a gofyn am ddefnyddio’r ffôn
  • Os wyt ti’n cerdded yr un ffordd yn rheolaidd, ceisia newid dy lwybr a’r amser
  • Paid bodio neu gymryd lifft gan bobl ddieithr. Os oes car yn stopio ac rwyt ti’n teimlo dan fygythiad, sgrechia a gwaedda a rheda i ffwrdd mor gyflym ag rwyt ti’n gallu

Bysiau a Threnau

Os wyt ti ar dy ben dy hun, mae cludiant cyhoeddus yn fwy diogel na cherdded adref, ond mae rhai pethau y galli di wneud i fod yn siŵr:

  • Mewn safle bws neu yn yr orsaf drenau, aros yn rhywle lle mae pobl eraill. Gwna’n siŵr dy fod ti’n sefyll yn y golau mewn man lle rwyt ti’n gallu gweld yn glir ym mhob cyfeiriad
  • Eistedd ar y llawr gwaelod neu’n agos at y gyrrwr neu’r tocynnwr, ac ar drên dewisa gerbyd lle mae ychydig o bobl eraill. Eistedd wrth yr eil fel y galli di newid sedd os oes rhaid, a phaid bod ag ofn symud os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus
  • Gwna’n siŵr dy fod ti’n gwybod ble mae’r gadwyn frys
  • Yn y nos, paid â mynd i stopiau tawel ac unig a threfna bod rhywun yn dod i dy gyfarfod pan fyddi di’n cyrraedd

Tacsi

Y peth pwysicaf i’w gofio yw y dylet ti bob amser wneud yn siŵr bod gan y tacsi rwyt ti’n ei gymryd drwydded briodol. Ffonia gwmni dilys ac archeba dacsi, neu cer at res o dacsis lle rwyt ti’n gwybod y bydd tacsis â thrwydded.

Dyma fwy o gyngor:

  • Anfon neges testun â’r gair CAB at 83222 er mwyn cael rhif y 3 man tacsi trwyddedig agosaf
  • Trefna i’r tacsi dy gasglu mewn man diogel
  • Gwna’n siŵr mai’r tacsi roeddet ti wedi ei archebu yw’r un sydd wedi cyrraedd
  • Eistedd y tu ôl i’r gyrrwr
  • Os oes gen ti unrhyw amheuon, paid â mynd mewn
  • Os wyt ti’n dechrau teimlo’n anghyfforddus, gofyn i’r gyrrwr dy adael di allan mewn man wedi ei oleuo’n dda gyda digon o bobl o amgylch