Skip to content

Helpu Atal Terfysgaeth

Mae llawer wedi bod yn y newyddion yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ynghylch terfysgaeth ac ymosodiadau terfysgol. Beth os bydden ni wedi gallu stopio’r ymosodiadau hyn?

Gallwn ni gyd chwarae ein rhan, hyd yn oed yn ardal Dyfed-Powys.

Os byddi di’n gweld unrhyw beth amheus dylet ti ymddiried yn dy reddf a ffonio’r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321.

Mae’r llinell gymorth am ddim ac yn gyfrinachol. Cofia ffonio 999 mewn achos brys.

Beth i Edrych Amdano

Mae angen rhywle i fyw a rhywle i gadw pethau ar derfysgwyr. Mae angen cerbydau arnyn nhw. Mae gyda nhw bobl sy’n eu helpu, sydd efallai’n mynd a dod ar adegau rhyfedd o’r dydd a’r nos. Efallai y byddan nhw’n dechrau ymddwyn yn wahanol.

Efallai y byddi di’n sylwi ar rai o’r pethau hyn:

  • Ymddygiad rhyfedd mewn tŷ, storfa neu garej
  • Tynnu ffotograffau neu wneud nodiadau o drefniadau diogelwch
  • Defnyddio nifer o ffonau symudol, cyfnewid cardiau SIM a setiau llaw, neu rywun â llawer o ffonau symudol
  • Bod â dogfennau mewn gwahanol enwau
  • Offer diogelwch fel goglau neu fygydau sydd wedi eu taflu i ffwrdd
  • Ymweld â gwefannau’n ymwneud â therfysgaeth
  • Bod yn amwys ynghylch i ble y maen nhw’n teithio