Gofyn i Vic
Er bod gyda ni lawer o wybodaeth, cymorth a chyngor ar y wefan hon roedden ni eisiau rhoi cyfle i ti siarad â Heddlu Dyfed-Powys yn uniongyrchol drwy ein fforwm.
Os oes gyda ti gwestiwn neu rywbeth nad ydyn ni wedi ei drafod rho wybod i ni a gallwn ni ofyn i’n ffrindiau yn Heddlu Dyfed-Powys.
Does dim rhaid i ti roi dy enw iawn na ble rwyt ti’n byw.
Galli di ofyn i ni beth sy’n gyfreithiol a beth sy’n anghyfreithiol, sut i ddiogelu dy eiddo a ti dy hun, neu galli di ofyn am gyngor ynghylch beth i’w wneud mewn amgylchiadau arbennig.
Mae gyda ni dîm o arbenigwyr wrth law a fydd yn gallu helpu, yr unig beth sydd raid i ti wneud yw gofyn.
Os oes gyda ti unrhyw adborth ynghylch y wefan hon neu os wyt ti eisiau gwneud cwyn cysyllta â ni’n uniongyrchol, cer at Rhywbeth i’w Ddweud?
Cofia, os wyt ti eisiau riportio trosedd dylet ti ffonio Crimestoppers Cymru ar 0800 555 111 neu fynd at eu gwefan