Skip to content

Cwnstabliaid Gwirfoddol

Swyddogion gwirfoddol rhan-amser sydd â’r un grymoedd â swyddogion heddlu arferol yw Cwnstabliaid Gwirfoddol.

Yn Heddlu Dyfed-Powys mae cwnstabliaid gwirfoddol yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion cyffredin ac mae disgwyl iddyn nhw weithio 16 awr y mis.

Maen nhw’n ddynion ac yn ferched o gefndiroedd ethnig amrywiol ac o bob rhan o’r gymuned - yn athrawon, ffermwyr, cynorthwywyr siop, gwragedd tŷ, pobl mewn swyddi amser llawn neu ran-amser neu bobl sydd gartref yn magu teulu - pobl gyffredin sydd eisiau rhoi rhywbeth nôl i’w cymuned.

Mae’n ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd a dysgu sut beth yw bod yn swyddog yr heddlu mewn gwirionedd. Maen nhw’n gwisgo’r un wisg ac yn cael yr un offer – yr unig wahaniaeth yw bod eu rhifau coler yn dechrau gyda saith.

I fod yn gwnstabl gwirfoddol rhaid i ti fod dros 18 oed a mynd trwy’r un profion recriwtio cychwynnol â swyddog yr heddlu.