Ynghylch y Wefan Hon
Mae’r wefan hon wedi ei datblygu gan Heddlu Dyfed-Powys. Mae pob cyngor wedi ei gasglu gan ddefnyddio cyngor a chanllawiau cenedlaethol cydnabyddedig, ac y mae’n cynnwys dolenni i’r deunydd gwreiddiol.
Bwriad y wefan yw ymgysylltu â phobl ifanc yn ardal Dyfed-Powys a darparu gwefan credadwy i ymweld â hi ar gyfer
cyngor, cymorth a chanllawiau ar faterion a fydd efallai’n effeithio arnyn nhw, yn ogystal â ffyrdd o gysylltu â’r Heddlu y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn eu defnyddio.
Bwriad y wybodaeth ‘beth rydyn ni’n ei wneud’ yw rhoi blas ar y math o bethau sydd ynghlwm â phlismona gweithredol bob dydd.
Mae’r fforwm yn cael ei safoni ac mae pob cyngor a roddir yn dod o gyngor a chanllawiau cenedlaethol cydnabyddedig.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Pam XRay99?
Rhag ofn dy fod ti’n pendroni pam rydyn ni wedi galw’r wefan yn xray99 - dyna arwydd galw ein hofrennydd. Mae gan bob cerbyd yr heddlu arwydd neu enw galw a ddefnyddir dros radio’r heddlu. Roedden ni’n meddwl y byddai xray999 yn enw da ar gyfer y wefan gan ei fod yn anghyffredin a (gobeithio) yn hawdd i’w gofio!